Yn 6 troedfedd 6 modfedd a 17 stôn, mae Joe Joyce ar y ffordd i fod yn un o lwyddiannau mawr Gemau Olympaidd Rio.

Enillodd Joe aur yn adran pwysau trwm yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 ac fe gododd y teitl yng Ngemau Ewrop 2015 yn Baku.

Fe gymhwysodd Joe ar gyfer Rio ar ôl buddugoliaeth dros Magomedrasul Majidov, sef y dyn olaf i guro Anthony Joshua.

Mae gan Joe, sy'n 30 oed ac yn dod o Lundain, gradd brifysgol yn y celfyddydau cain, ac mae'n llawer mwy annwyl y tu allan i'r ring.  Mae paentio yn un o'i ddiddordebau ac un diwrnod mae'n gobeithio gwireddu ei freuddwyd o agor ei stiwdio ei hun a chynnal arddangosfa o'i waith.