Fe enillodd y sbrintiwr Paralympaidd Jonnie Peacock MBE aur yn Llundain 2012 yn ffeinal 100m T44, gan osod record newydd.

Jyst cyn y Gemau Paralympaidd, fe osododd record y byd yn y 100m T44 yn Nhreialon Trac a Maes Paralympaidd yr UD.

Trychedig cymalau is ar ôl dioddef llid yr ymennydd yn bum mlwydd oed, fe dynnodd Jonnie sylw pobl fel athletwr talentog pan fynychodd Diwrnod Potensial a oedd yn cael ei redeg gan Sefydliad Paralympaidd Prydain yn Stadiwm Athletau Mile End, gan gymryd rhan mewn sbrint 60m.

Ar ôl blynyddoedd o hyfforddi a dysgu ei grefft mewn digwyddiadau rhanbarthol, ym mis Mai 2012 fe gystadlodd Jonnie yn ei ras ryngwladol gyntaf yng Nghwpan y Byd Paralympaidd ym Manceinion. Mis yn ddiweddarach fe dorrodd record y byd ar 6 Medi 2012 ac fe enillodd ei aur Paralympaidd, gan ei wneud yn flwyddyn i'w gofio.

Jonnie Peacock
Jonnie Peacock