Ganed yn Wigan, fe ymunodd Kyle ag Academi Seiclo BMX British Cycling yn 18 oed ym mis Rhagfyr 2011. 

Fe greodd Kyle Evans argraff yn syth, gan gael ei dewis fel y beiciwr BMX wrth gefn ar gyfer Team GB yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.

Yn y rownd gyntaf o Gwpan y Byd BMX SuperCross yr UCI 2013, fe orffennodd Kyle yn chweched yn y ffeinal treial amser ac fe gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf yn nigwyddiad y supercross.

Ar yr un digwyddiad yn 2014, fe gyrhaeddodd Kyle y ffeinal a gorffen yn bumed, gan guro rhai o'r enwau mawr ym myd BMX.

Yn 2016, fe gyrhaeddodd Kyle y podiwm yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ble enillodd y fedal arian ym Manceinion y tu ôl i feiciwr BMX arall ar dîm Prydain Fawr, Liam Phillips.

Kyle Evans