Mabolgampwr artistig yw Nile Wilson o Leeds a gynrychiolodd Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2014.

Nile oedd y mabolgampwr cyntaf Prydeinig erioed i ennill pum medal aur ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Iau Ewrop 2014. Y flwyddyn honno aeth ymlaen i ennill dwy fedal aur yn y bar uchel a'r digwyddiad tîm yng Ngemau'r y tro cyntaf iddo gystadlu dros Loegr fel mabolgampwr hŷn.

Roedd Wilson yn aelod o dîm Prydain a enillodd medal arian ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Artistig y Byd 2015. Dyma oedd y fedal tîm gyntaf i ddynion yn hanes gymnasteg Prydain.