Rhedwraig 400m yw Perri Shakes-Drayton. 

Wedi'i geni a'i magu yn Nwyrain Llundain, fe astudiodd Perri gwyddoniaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Brunel, gan raddio gyda 2:1.

Yn Grand Prix Llundain 2012, cyfarfod olaf y Diamond League cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012, fe gofnododd ei hamser cyflymaf erioed yn y 400m clwydi sef 53.77, amser o roddodd hi'n ail yn y byd ar gyfer y flwyddyn ac hefyd yr athletwraig Brydeinig ail gyflymaf erioed y tu ôl i Sally Gunnell.

Ym Mhencampwriaethau Dan Do Ewrop yn 2013 yn Gothenburg, aeth Perri ymlaen i ennill aur yn y 400m a'r ras gyfnewid 4X400m.

Perri Shakes-Drayton