Adam Gemili yw pencampwr iau cyfredol y Byd ac Ewrop dan 23 yn y 100m.

Enillodd Gemili fedal aur yn y 100m ym Mhencampwriaethau Iau y Byd yr IAAF yn 2012. Gyda'i amser buddugol o 10.05 eiliad fe sefydlodd record pencampwriaeth newydd, a dyma oedd yr ail amser cyflymaf erioed gan redwr iau o Ewrop. 

Wedi clirio'r amser i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd sef 10.08 yn y 100 metr ym mis Mehefin 2012, fe gystadlodd Gemili yn Llundain 2012, gan ddod yn drydydd yn y rownd gynderfynol mewn amser o 10.06 eiliad, dim ond 0.04 yn fyr o gymhwyso ar gyfer ffeinal y Gemau Olympaidd.

Fe enillodd ei fedal hŷn cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, gan ddod yn ail i Kemar Bailey-Cole o Jamaica yn ffeinal y 100m. Pythefnos yn ddiweddarach fe enillodd Gemili ei deitl hŷn cyntaf, gan ennill y 200m ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop.